Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 24 Medi 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 11.38 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies AC (Cadeirydd) Peter Black AC Christine Chapman AC Mike Hedges AC Alun Ffred Jones AC Ann Jones AC Julie Morgan AC Nick Ramsay AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Robert Chote, Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol Laura van Geest, Canolfan CPB yr Iseldiroedd ar gyfer Dadansoddi Polisi Economaidd Wim Suyker, Canolfan CPB yr Iseldiroedd ar gyfer Dadansoddi Polisi Economaidd |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Bethan Davies (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Richard Bettley (Ymchwilydd) Helen Jones (Ymchwilydd) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
1.2 Croesawodd y Cadeirydd Nick Ramsay i'r Pwyllgor fel Aelod a diolchodd i Paul Davies am ei waith, gan hysbysu’r Aelodau y byddai'n ysgrifennu ato.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Nodwyd y papurau.
2.1 Cyllid addysg uwch: Llythyr gan Darren Millar AC (30 Gorffennaf 2014)
2.2 Y Bil Addysg Uwch (Cymru): Llythyr gan Addysg Uwch Cymru (31 Gorffennaf 2014)
2.3 Adroddiad Alldro Llywodraeth Cymru 2012-13: Llythyr gan y Gweinidog Cyllid (5 Awst 2014)
2.4 Y Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru): Llythyr gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth (29 Awst 2014)
3 Ymchwiliad i'r arferion gorau o ran y gyllideb - Rhan II: Sesiwn dystiolaeth 1
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Laura van Geest, Cyfarwyddwr, a
Wim Suyker, Arweinydd y Rhaglen yn y Biwro CPB yr Iseldiroedd ar gyfer Dadansoddi Polisi Economaidd, yn Rhan II o’r ymchwiliad i'r arfer gorau mewn prosesau cyllidebol
4 Ymchwiliad i'r arferion gorau o ran y gyllideb - Rhan II: Sesiwn dystiolaeth 2
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Robert Chote, Cadeirydd y Swyddfa Cyfrifoldeb y Gyllideb, yn Rhan II o’r ymchwiliad i'r arfer gorau mewn prosesau cyllidebol.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Ymchwiliad i'r arfer gorau mewn prosesau cyllidebol - Rhan II: Trafod y dystiolaeth a gafwyd
6.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.
7 Y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru): Goblygiadau Ariannol y Bil
7.1 Trafododd yr Aelodau'r papur briffio ar y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru), gan gytuno y byddent yn gwahodd Bethan Jenkins AC, yr Aelod sy’n Gyfrifol, i ateb cwestiynau ar oblygiadau ariannol y Bil fel y mae ar hyn o bryd.
7.2 Cytunodd Ann Jones i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ar y gwaith craffu ariannol ar y Bil wrth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg graffu arno yng Nghyfnod 1.
8 Swyddfa Archwilio Cymru: Adroddiad ar ganfyddiadau'r archwiliad o gyfrifon 2013 - 2014
8.1 Trafododd yr Aelodau'r papur gan RSM Tenon ar Adroddiadau Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru a Chyfrifon 2013-14 a chytunwyd nad oeddent am i gynrychiolydd o RSM Tenon fod yn bresennol wrth i’r Pwyllgor drafod Adroddiadau Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru a Chyfrifon 2013-14 ym mis Tachwedd.
8.2 Bydd y Clerc yn ysgrifennu at RMS Tenon yn rhoi gwybod am y penderfyniad hwn, gan hefyd wneud cais am grynodeb byr o'r papur.
9 Y flaenraglen waith
9.1 Nododd yr Aelodau'r rhaglen waith. Trafododd yr Aelodau’r posibilrwydd o ymweld â Senedd yr Alban a bydd yn rhoi gwybod i'r Clerc os ydynt ar gael. Awgrymodd yr Aelodau hefyd feysydd gwaith ar gyfer ymholiadau yn y dyfodol a fydd yn cael ei ystyried yn nes ymlaen.